Elin Wyn

Dydd Iau 29th Gorffennaf 2010

Hyfforddi a Mentora

Mae arolwg diweddar gan Sefydliad Siartredig Personnel a Datblygu (CIPD) yn dangos bod hyfforddi a mentora yn fwy fwy poblogaidd fel modd o hybu dysgu a datblygu. Roedd 99% o’r rhai atebodd yn credu ei fod yn dod a budd gwirioneddol i’r busnes.

Rwy’n hyfforddwr cymwysiedig ac wedi cwblhau Tystysgrif y CIPD mewn Hyfforddi a Mentora ac rwy’n parhau i gael goruwchwiliaeth ar gyfer fy ngwaith hyfforddi.

Mae sawl diffiniad o beth yw hyfforddi ond rwy’n gweld fy ngwaith fel hyfforddwr fel un sy’n helpu unigolyn i gyflawni ei botensial drwy ddatblygu a gwella ei perfformiad yn y gwaith. Rwy’n darparu hyfforddi unigol gyda sesiynnau fel arfer yn para rhwng 75 a 90 munud tua unwaith y mis.

Yn ogystal â gwella fy nhwaith yn uniongyrchol mae’r sesiynnau hyfforddi wedi gwella fy hyder yn fy nghallu fy hun yn sylweddol ac wedi fy ngwneud yn fwy pendant wrth gyfathrebu’r gallu yna i eraill. Mae’r sesiynau hefyd wedi gwneud i fi sylweddoli bod gen i ran allweddol i chwarae yn y sefydliad a bod gen i sgiliau gwerthfawr ac mae hyn wedi rhoi hyder i fi parthed fy nyfodol gyda’r sefydliad. Rwy’n teimlo’n hyderus am osod fy agenda fy hun ac ymladd dros y rôl yr hoffwn chwarae yn y dyfodol.

Roedd y budd yn sylweddol. Roeddwn yn cwblhau cwrs MBA yr un pryd ac un o fy mhrif amcanion eleni oedd ystyried opsiynnau ar gyfer gyrfa yn y dyfodol a phenderfynu ar lwybr gyrfa ac mae’r sesiynnau hyfforddi wedi bod yn help arurthol yn hynny o beth, yn enwedig y sesiwn ar “Gylch Bywyd”.  Ar lefel ymarferol dydd i ddydd roedd y sesiwn ar reoli amser o gymorth mawr yn enwedig wrth gydbwyso galwadau gwaith a choleg yn ystod fy arholiadau. Rwyf nawr yn teimlo llawer mwy hyderus am fy nyfodol proffesiynol ac mae gen i syniad cliriach a mwy pendant am yr hyn yr hoffwn ei gyflawni yn y blynyddoedd nesaf.

Roedd yr hyfforddi gefais i yn wirioneddol wych. Mae’n rhaid cyfaddef roeddwn ychydig yn amheus am y dechneg a’r holl beth pan ddechreuais ond nawr fe fyddwn yn ei argymell i eraill.

 

  Hawlfraint Cynnyrch © 2010 Elin Wyn
Telerau Defnyddio | Polisi Preifatrwydd | Map o'r Wefan