Hyffordiant Newyddiadurol
Mae gen i 24 mlynedd o brofiad fel newyddiadurwr gyda’r BBC, mewn teledu a radio, newyddion, materion cyfoes a rhaglenni gwleidyddol. Yn 1999 fe sefydlais y gwasanaeth darlledu unigryw, dwyieithog o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar sianel ddigidol S4C2. Roeddwn hefyd yn gyfrifol am drefnu holl newyddion etholiad BBC Cymru yn ystod etholiadau 2003 a 2005.
Fy arbenigedd yw trefnu newyddion adeg etholiadau a sut mae’r cyfryngau yn portreadu menywod mewn gwleidyddiaeth.
Yn Chwefror 2007 fe drefnais a hwyluso gweithdy 5 niwrnod ar ran Cymdeithas Ddarlledu’r Gymanwlad (CBA) ar gyfer Voice of Nigeria yn Lagos, Nigeria. Thema’r gweithdy oedd lle menywod mewn gwleidyddiaeth yn Nigeria a’r rhan sydd gan y cyfryngau i chwarae yn y broses ddemocrataidd.
Ym mis Mawrth 2007 fe gydweithiais gyda’r South Asia Free Media Association (SAFMA) a’r CBA yn Bhurban, Pakistan mewn gweithdy Cyfryngau Electroneg ar newyddion etholiad. Fe hyfforddais dros 40 o newyddiadurwyr teledu ar sut i drefnu newyddion etholiad a ffilmio adroddiadau newyddion etholiad.
![]() |
![]() |
|
|
|
||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
|
|
||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
|
|
||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
|
|
||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
|
|
||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
|
|
||
![]() |
![]() |




