Elin Wyn

Dydd Mawrth 19th Mawrth 2024

Cyfathrebu

Mae cyfathrebu eich neges yn effeithiol i'r cyhoedd yn hanfodol i unrhyw gwmni neu sefydliad. Efallai na fydd yr iaith y byddwch yn ei defnyddio yn eich proffesiwn neu ddiwydiant yn cael ei deall yn rhwydd gan y cyhoedd. Yn fy mhrosiectau cyfathrebu rwy'n sicrhau bod y neges rydych chi eisiau ei chyfleu yn cael ei chyflwyno mewn ffordd y bydd y gynulleidfa darged yn ei deall.

Ymhlith y prosiectau rwyf wedi eu cwblhau mae ysgrifennu a golygu Adroddiadau Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru, oedd yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth a data cymhleth i gynulleidfa amrywiol, o weithwyr iechyd proffesiynol i leygwyr.

Roeddwn hefyd yn gyfrifol am gysylltiadau'r cyfryngau yn ystod Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli dan gadeiryddiaeth yr Athro Hugh Pennington yn 2008/2009, i'r achos o E.coli O157 yn Ne Cymru yn 2005. Yn ogystal ag ymdrim ag ymholiadau'r cyfryngau yn ystod yr Ymchwiliad fe fum hefyd yn cynorthwyo gyda'r gwaith o ysgrifennu a phrawfddarllen yr Adroddiad.

Yn 2011 gofynnodd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru i fi ysgrifennu a golygu y Strategaeth Iaith ddrafft, Iaith Fyw, Iaith Byw.

Ymhlith fy mhrosiectau hyfforddiant cyfathrebu roedd un i Weinyddiaeth Gwybodaeth a Darlledu Llywodraeth India. Daeth wyth o uwch swyddogion y Weinyddiaeth i Gaerdydd a Llundain i ddysgu am gyfathrebu llywodraeth a modelau darlledu cyhoeddus yn y DU. Fel hyfforddwr ar gyfer y Thomson Foundation fe drefnais yr holl raglen hyfforddi ynghyd a nifer o gyfarfodydd gyda phobl allweddol y diwydiant a hwyluso'r holl gwrs 10 diwrnod.

Roedd yn weithdy gafodd ei gydlynu yn dda o safbwynt cynnwys a chyflwyniad.

Profiad dysgu gwych

Roedd yr hyfforddi yn agoriad llygad i fi. Dylai pob swyddog gael y fath hyfforddiant yn rheolaidd.

Rhan mwyaf diddorol y cwrs oedd y cyfuniad o theori ac ymweld a safloedd lle cafon ni weld y mannau perthnasol.

Roedd yr hyfforddi yn wirioneddol wych ac fe wnes fwynhau fy arhosiad yn fawr iawn.

Sylwadau gan uwch swyddogion Gweinyddiaeth Gwybodaeth a Darlledu Llywodraeth India.

 

 

 

  Hawlfraint Cynnyrch © 2024 Elin Wyn
Telerau Defnyddio | Polisi Preifatrwydd | Map o'r Wefan