Elin Wyn

Dydd Mawrth 19th Mawrth 2024

Profiad

Mae gen i brofiad reoli helaeth, ar lefel ymarfeol ac academaidd. Yn 2005 derbynnias radd Meistr mewn Rheolaeth Cyfryngau o Brifysgol Leeds. Yn ystod fy ngyrfa gyda'r BBC bum yn rheoli sawl prosiect mawr gan gynnwys lansiad gwasanaeth darlledu digidol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar S4C2; agor swyddfa ac adnoddau technegol y BBC yn y Cynulliad ei hun; newyddion etholiad yn ystod etholiad y Cynulliad yn 2003 ac etholiad cyffredinol 2005; gofal am systemau graffeg ar gyfer rhaglenni etholiad yn 2001, 2003 a 2005.

Rwy'n cydweithio'n agos gyda nifer o gwmniau a sefydliadau gan gynnwys un o brif ddarparwyr hyfforddiant newyddiadurol a chyfryngau y byd, y Thomson Media Foundation; yr arbenigwyr mewn materion cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt The Bay Public Affairs

Ym mis Ebrill 2007 cefais fy mhenodi gan y Gweinidog Diwylliant ar y pryd, Alun Pugh AC, yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Cefais fy ail benodi am dymor pellach o dair blynedd yn 2010

Ym mis Medi 2007 cefais fy ethol i Fwrdd Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd.

Rwyf hefyd yn lywodraethwr yn Ysgol Gymraeg Treganna, Caerdydd.

Ym mis Rhagfyr 2010 cefais fy mhenodi yn aelod o bwyllgor UNESCO Cymru, sy'n rhan o Gomisiwn Cenedlaethol UNESCO y DU.

 

 


  Hawlfraint Cynnyrch © 2024 Elin Wyn
Telerau Defnyddio | Polisi Preifatrwydd | Map o'r Wefan