Hyfforddiant Newyddiadurol
Mae gen i 24 mlynedd o brofiad fel newyddiadurwr gyda'r BBC, mewn teledu a radio, newyddion, materion cyfoes a rhaglenni gwleidyddol. Yn 1999 fe sefydlais y gwasanaeth darlledu unigryw, dwyieithog o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar sianel ddigidol S4C2. Roeddwn hefyd yn gyfrifol am drefnu holl newyddion etholiad BBC Cymru yn ystod etholiadau 2003 a 2005.
Fy arbenigedd yw cynllunio a gohebu adeg etholiadau a sut mae'r cyfryngau yn portreadu menywod mewn gwleidyddiaeth.
Ym mis Mai 2011 roeddwn yn gyfrifol am drefnu a hwyluso cwrs ar gyfer newyddiadurwyr o Tiwnisia oedd yn paratoi ar gyfer yr etholiadau rhydd a democrataidd cyntaf yn y wlad ers y chwyldro yn Ionawr 2011. Ariannwyd y cwrs gan yr UE ac fe gafodd ei gynnal gan y Thomson Foundation yng Nghaerdydd yn ystod wythnos etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gallwch ddarllen am y cwrs yma.
Rwyf hefyd wedi cynnal gweithdai cynllunio a gohebu etholiad yn Nigeria, Pakistan, Ghana a Swaziland. Mae'r gweithdai hyn wedi eu cynnal ar ran nifer o sefydliadau gan gynnwys Cymdeithas Ddarlledu'r Gymanwlad (CBA), UNESCO, a'r South Asia Free Media Association (SAFMA)
Yn ogystal a hyfforddiant etholiad rwyf hefyd wedi cynnal gweithdy ar Foeseg Newyddiaduraeth yn Kuwait ar gyfer Cymdeithas Newyddiadurwyr Kuwait (KJA) ar ran y Cyngor Prydeinig, Freedom House a'r Thomson Foundation. Prif ddeilliant y gweithdy oedd creu'r Côd Moeseg cyntaf erioed ar gyfer newyddiadurwyr Kuwait.
![]() |
![]() |
|
|
||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
|
||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
|
||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
|
||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
|
||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
|
||
![]() |
![]() |