Elin Wyn

Dydd Mawrth 16th Mawrth 2010

Hyfforddiant Cyfryngau

Mae ymdrin â’r cyfryngau yn gallu bod yn brofiad anodd. Dyma eich cyfle i werthu eich neges i’r cyhoedd, ond os yw pethau’n mynd o chwith fe allai hynny adlewyrchu’n wael arnoch chi a’ch sefydliad.

Mae gen i 25 mlynedd o brofiad o gynhyrchu rhagleni newyddion a materion cyfoes ac mae gen i’r holl wybodaeth o’r tu fewn ar sut i ymdrin â’r cyfryngau – radio, teledu, print ac arlein. Rwy’n gweithio gyda newyddiadurwyr a thechnegwyr proffesiynnol i ddarparu hyfforddiant o’r safon uchaf – hyfforddiant sy’n dod a chanlyniadau cadarnhaol.

Mae pob rhaglen hyfforddi wedi’i deilwra ar gyfer anghenion penodol y cleient ond gallai cwrs gynnwys elfennau megis cyflwyniad i’r gwahanol gyfryngau; beth sy’n gwneud stori newyddion dda; sut mae ysgrifennu datganiad newyddion effeithiol; sut mae ymdopi â cheisiadau am gyfweliadau; beth yw’r gwahanol fathau o gyfweliadau; ymarferion un-i-un gyda chyflwynydd newyddion profiadol.

Fe gafon ni ddechrau gwych i’n hymgyrch Pobl Fel Ni yn 2007 ar ôl cyflogi Elin i ddarparu hyfforddiant i’n prif arweinydd cyn y lansiad; golygodd yr hyfforddiant i ni fedru bod yn fwy hyderus o ran ein strategaeth cyfryngau.

Roy Thomas, Caderiydd, Sefydliad Aren Cymru

Fe gafodd yr holl broses, o’r paratoi i’r technegau cyfweld, eu hesbonio a’u cyflwyno mewn ffordd broffesiynol ac effeithiol. Roedd yr hyfforddiant yn cynnig sylfaen drwyadl – a mwy – mewn cyflwyno eich hun i’r cyfryngau. Roedd yna wahanol fathau o gyfweliadau – yn union fel sy’n digwydd go iawn.
Alun Cairns AC, Ceidwadwyr Cymru

Mi wnaeth Elin Wyn ddarparu sawl sesiwn hyfforddiant y wasg i dim o staff a gwirfoddolwyr. Mi roedd y ddarpariaeth o safon uchel a phwrpasol ac yn addas i amrediad eang o sgiliau ymysg y staff. Mi roedd y cynnyrch yn uchel ei safon ac o brofiad comisiynu sesiynnau o'r fath yn y gorffennol yn werth da iawn am yr arian a fuddsoddwyd.
Dafydd Trystan, Prif Weithredwr, Plaid Cymru

  Hawlfraint Cynnyrch © 2010 Elin Wyn
Telerau Defnyddio | Polisi Preifatrwydd | Map o'r Wefan